Rhan o'r gauaf du aeth heibio

(Dechrau Oedfa. Llwyddiant yr Efengyl.)
Rhan o'r gauaf du aeth heibio,
  Daeth y  nefol hyfryd hâf;
'Fengyl Iesu sydd yn llwyddo
  Llwyddiant rhagor gweled caf;
'R adar mân sy'n dechreu canu,
  Mwy peraidd canant cyn b'o hîr;
Pan ddêl Iesu i deyrnasu
  Dros y môr a thros y tir.

Tyred Arglwydd, tyr'd yn fuan
  Rho'n fwy helaeth ôl dy law;
Awel hyfryd
    dy Lân Yspryd
  Chwytho fywyd yma â thraw:
Gwael drueiniaid, gwna i glywed
  Dy efengyl yn ei grym,
Ne's bo cynnwrf
    trwy'r holl wledydd
  Prawf o'th hedd
      a'th gleddyf llym.

Tafl O Arglwydd rwyd d'efengyl
  Am rai pechauriaid mawr;
Sydd yn troi at hon eu gwegil
  Heb erioed eu torri lawr:
Fel segurwyr yn y farchnad
  Heb ddansio na galaru chwaith;
O cyfloga hwy a'th alwad,
  I'r winllân bellach at eu gwaith.

De'wch blant bychain,
    da yw'ch gweled
  Ar y drydydd awr o'ch dydd;
De'wch Oh! ieungctyd ar y chweched
  I'r winllan galwad i chwi sydd.
De'wch rhai eraill ar y nawfed,
  Cyn yr elo hi'n brydnhawn;
De'wch hen bobl cyn ddeuddegfed
  Hi aeth yn ddiweddar iawn!
John Thomas 1730-1804?
Diferion y Cyssegr 1802

gwelir: Arglwydd llwydda dy efengyl

(The Start of a Service. The Success of the Gospel.)
Part of the black winter has passed,
  The delightful heavenly summer has come;
The gospel of Jesus is succeeding
  Further success I shall get to see;
The small birds are beginning to sing,
  More sweetly they shall sing before long;
When Jesus comes to reign
  Over the sea and over the land.

Come, Lord, come soon
  Give more widely the mark of thy hand;
May the delightful breeze
    of thy Holy Spirit
  Blow life here and there:
Poor sinners, make to hear
  Thy gospel in its force,
Until there be a commotion
    throughout all the lands
  An experience of thy peace
      and thy sharp sword.

Cast, O Lord, the net of thy gospel
  For some great sinners;
Who are turning to it their neck
  Without ever bending them down:
Like those idle in the market
  Neither dancing nor lamenting either;
O hire them with thy call,
  To the vineyard now to their work.

Come ye little children,
    good it is to see you
  At the third hour of your day;
Come, O ye youth at the sixth
  To the vineyard there is to you a call.
Come, ye others, at the ninth,
  Before it becomes evening;
Come ye old people before the twelfth
  It has become very late!
cyf. 2023 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~